Enillwyr y llynedd
Os nad ydych wedi anfon eich cân at drefnwyr cystadleuaeth Cân i Gymru eleni, does dim llawer o amser ar ôl!

Mae S4C am atgoffa cyfansoddwyr bod yn rhaid iddyn nhw anfon eu ceisiadau ar gyfer cystadleuaeth Cân i Gymru 2012 cyn y dyddiad cau Ddydd Llun nesaf, 9 Ionawr.

Mae’r cynhyrchwyr Avanti yn dweud eu bod nhw eisoes wedi cael ymateb da i’r gystadleuaeth a fydd yn cael ei darlledu ar S4C ar 4 Mawrth eleni.

Yr abwyd yw gwobr o £7,500 a’r anrhydedd o gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd flwyddyn nesaf.

Mae Avanti yn croesawu ceisiadau gan gyfansoddwyr ar ffurf CD, casét neu .mp3, ynghyd â ffurflen gais sydd ar gael gyda holl fanylion y gystadleuaeth ar wefan Cân i Gymru: s4c.co.uk/canigymru. Mae’n rhaid i gystadleuwyr fod dros 16 oed.

Bydd wyth cân yn cael eu dewis ar restr fer gan reithgor o arbenigwyr gydag Owen Powell, gynt o’r band Catatonia, yn cadeirio. Bydd yr wyth cân yn cystadlu mewn rhaglen fyw o Bafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar 4 Mawrth, 2012.

Yn ogystal â’r brif wobr, mae hefyd gwobr o £2,000 ar gyfer yr ail safle, a £1,000 i’r drydedd.

Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Avanti ar 02920 838 149 neu canigymru2012@avantimedia.tv

Y cerddorion Steve Balsamo ac Ynyr Roberts oedd yn fuddugol yn 2011 gyda’r gân Rhywun yn Rhywle. Y gantores o Fochdre, Tesni Jones, oedd yn perfformio’r gân fuddugol ar y noson.

Yn dilyn llwyddiant Rhywun yn Rhywle yn Cân i Gymru, profodd y gân fuddugoliaeth bellach yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon gan gipio’r wobr am y Gân Ryngwladol Orau.