Rhan o'r A55

Mae’r heddlu yn dweud eu bod nhw wedi gwneud cryn gynnydd yn eu hymchwiliad i gyfres o fyrgleriaethau ar draws Gogledd Cymru fis Tachwedd a mis Rhagfyr diwethaf.

Yn y cyfnod hwn, cafodd nifer sylweddol o dai gwag eu targedu ar hyd coridor yr A55 pan dorrodd lladron i mewn a dwyn gemwaith ac arian parod.

Mi gafodd ymgyrch ar y cyd rhwng rhai o heddluoedd Cymru a heddlu West Mercia ei threfnu ac mi wnaeth hynny arwain at arestio dau ddyn.

Mae’r ddau wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i gyflawni byrgleriaethau yn ardal heddlu Dyfed Powys ac maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa.   Mae tîm o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yn dal i ymchwilio i’r troseddau ac maen nhw’n gweithio’n agos â Heddlu Dyfed Powys.

Bydd y ddau ddyn yn cael eu holi am droseddau yng Ngogledd Cymru ac ardaloedd heddluoedd eraill.

Meddai Ditectif Arolygydd Alun Oldfield: “Rydym wedi bod yn gweithio’n agos â Dyfed Powys ar yr ymchwiliad hwn ac rydym mewn cysylltiad â Gwasanaeth Erlyn y Goron yr ardal honno fel y gallwn gyflwyno ein tystiolaeth iddyn nhw er mwyn i ragor o gyhuddiadau gael eu hystyried. Mae archwiliadau fforensig ar y gweill.

“Hoffwn sicrhau’r cyhoedd nad oes unrhyw droseddau tebyg wedi digwydd yng Ngogledd Cymru ers i’r ddau ddyn yma gael eu harestio ar Ragfyr 16.”