Neuadd y Sir Caerfyrddin
Mae pryder y bydd yr arian y mae Mentrau Iaith Sir Gaerfyrddin yn ei dderbyn ar hyn o bryd gan y Cyngor Sir yn cael ei haneru.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried cwtogi’r grant o £50,000 y flwyddyn sy’n cael ei roi i Fenter Iaith Cwm Gwendraeth, Menter Bro Dinefwr a Menter Gorllewin Sir Gâr.
Mae un o bwyllgorau’r Cyngor wedi cymeradwyo cynnig i gwtogi’r arian ac fe fydd y cyngor llawn yn trafod y mater ymhen tair wythnos.
Dywedodd Cyfarwyddwr Menter Cwm Gwendraeth, Detris Williams, fod y newyddion yn siomedig iawn. Roedd yr arian maen nhw’n ei dderbyn gan y Cyngor Sir yn bwysig, meddai.
“Oni bai am yr arian craidd fydden ni ddim yn gallu tynnu’r arian cyfatebol arall i lawr i’r sir ac i’r cymoedd yma er mwyn hyrwyddo gweithgareddau cymunedol trwy gyfrwng y Gymraeg,” ychwanegodd.
Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Chris Burns, fod rhaid i’r Cyngor wneud arbedion effeithlonrwydd o tua £20 miliwn dros gyfnod o dair blynedd.
“Rydym yn ystyried ystod eang o ddewisiadau ac mae hwn yn un ohonyn nhw,” meddai.
Cafodd y mentrau iaith eu sefydlu er mwyn hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn yr ardal.