Mae’r heddlu wedi enwi dynes fu farw yn dilyn gwrthdrawiad car yn Sir y Fflint yn oriau man y bore ddydd Sul.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth Louise Amison, 31 oed, o Fagillt.

Daethpwyd o hyd i’w chorff ar ffordd ddeuol yr A548 am 4.37am.

Dywedodd teulu Louise Amison y bydd “ei theulu a’i ffrindiau yn gweld ei heisiau hi”.

“Mae hi’n gadael tri bachgen, Jordan, 14, Joshua, 10 a Jack, 8, yn ogystal â’i mam Jane a’i chwaer Natalie.”

Apêl

Dywedodd yr heddlu ddoe nad oedd gyrrwr y cerbyd wedi stopio a rhoi gwybod i’r gwasanaethau bryd bod y gwrthdrawiad wedi digwydd.

“Hoffwn i alw ar unrhyw un oedd yn teithio ar yr A548 rhwng y Fflint a Treffynnon rhwng 4.00am a 4.30am, ac a welodd dynes tua phum troedfedd o daldra yn gwisgo siaced dywyll, jîns a het goch, i gysylltu.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu 08456071001.