Mae seiclwr 14 oed wedi marw ar ôl cael ei anafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad â char ym Mhowys.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod beic BMX y bachgen wedi gwrthdaro â char Volkswagen Polo du. Roedd y bachgen wedi bod allan yn seiclo gyda ffrind.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A483 i’r gogledd o’r Trallwng, rhwng Four Crosses ac Arddlîn am 4.40pm ddoe. Cafodd y ffordd ei gau am chwe awr yn dilyn y gwrthdrawiad.

Aethpwyd a’r bachgen i ysbyty yn yr Amwythig cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Plant Birmingham.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.