Ni fydd unrhyw bapurau arholiad TGAU eraill yn cael eu tynnu’n ôl fis yma yn dilyn ymchwiliad i rannu gwybodaeth “amhriodol” rhwng arholwyr ac athrawon.

Fis diwethaf cyhoeddodd Ofqual y byddai un o bapurau arholiad technoleg gwybodaeth TGAU bwrdd arholi CBAC yn cael ei dynnu’n ôl er mwyn diogelu gwerth y cymhwyster.

Daw hynny yn sgil honiadau fod arholwyr wedi bod yn cynghori athrawon ynglŷn â sut i roi hwb i ganlyniadau TGAU a Safon Uwch disgyblion.

Daeth adroddiad brys gan Ofqual i’r casgliad bod athrawon wedi cael gwybod pa bynciau y byddai myfyrwyr yn cael eu holi arnynt yn un o seminarau CBAC.

Roedd tua 450 o ddisgyblion wedi bwriadu sefyll yr arholiad fis yma, ond mae bellach wedi ei symud i fis Mawrth.

Cyhoeddodd Ofqual na fydd unrhyw arholiadau arall sydd wedi eu trefnu ar gyfer mis Ionawr yn cael eu tynnu’n ôl yn dilyn ymchwiliad i seminarau byrddau arholi.

“Does yna ddim tystiolaeth bellach yn ymwneud â phapurau mis Ionawr ac felly fe fydd yr arholiadau yn mynd rhagddynt,” meddai’r Prif Weithredwr, Glenys Stacey.

“Dyw hyn ddim yn golygu fod ein hymchwiliad i’r mater ar ben. Mae’r cyhuddiadau wedi codi cwestiynau o bwys am y seminarau rhain ac wedi difrodi hyder y cyhoedd yn y system.”

Cafodd tri arholwr, dau o CBAC ac un o Edexcel eu hatal o’u gwaith dros dro wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo.