Mae seiclwr 14 oed wedi ei anafu’n ddifrifol ar ôl gwrthdrawiad â char ym Mhowys.
Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 4.40pm ddydd Iau ar yr A483 i’r gogledd o’r Trallwng. Cafodd y ffordd ei gau am chwe awr yn dilyn y gwrthdrawiad.
Aethpwyd a’r bachgen i ysbyty yn yr Amwythig cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Plant Birmingham.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod beic BMX y bachgen wedi gwrthdaro â char Volkswagen Polo du.
Roedd y bachgen mewn cyflwr difrifol, medden nhw.