Mae dyn wedi cael ei ladd ar ôl gwrthdrawiad â thrên yng Nghwmbrân neithiwr.

Cafodd yr heddlu trafnidiaeth eu galw i orsaf drenau Cwmbrân am 12.04am y bore ma, yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei daro gan drên.

Yn ôl llefarydd ar ran yr Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig, dyw’r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.

Dywedodd y llefarydd heddiw fod swyddogion o’r “Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig a Heddlu Gwent wedi cael eu galw… ac nad yw’n cael ei drin fel marwolaeth amheus.

“Aeth parafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru i’r digwyddiad hefyd, ond roedd y dyn wedi marw yn y fan a’r lle.”

Cafodd y dyn ei daro gan y trên 8.30pm o orsaf Piccadilly, Manceinion i Ganol Caerdydd, ond mae’r ymchwiliad i’r amgylchiadau yn parhau.

Yn ôl llefarydd ar ran yr Heddlu Trafnidiaeth, mae’r “ymholiadau’n parhau er mwyn cael gwybod enw’r dyn, ac amgylchiadau llawn y digwyddiad, gan gynnwys sut y daeth y dyn at y cledrau”.

“Bydd ffeil yn cael ei pharatoi ar gyfer y crwner.”

Bu’r rheilffordd ar gau am ddwy awr a hanner wedi i’r heddlu derbyn yr adroddiadau cyntaf am y digwyddiad, cyn iddo ail-agor eto am 2.34am.