Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud y gallai’r mudiad newid yn llwyr yn y dyfodol agos.

Daw ei sylwadau yn sgil cyfres o erthyglau gan ymgyrchwyr amlwg yn trafod sut y dylai’r mudiad fynd i’r afael â dirywiad yr iaith yn y dyfodol.

Mewn erthygl a gyhoeddwyd ddoe galwodd yr academydd Simon Brooks am fudiad newydd er mwyn mynd i’r afael â heriau’r Gymru fodern.

Yn yr erthygl, a gomisiynwyd er mwyn nodi 50fed pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith, mae’n dadlau fod “angen grŵp cyfansoddiadol a fydd yn rhoi’r iaith wrth galon y wladwriaeth Gymreig”.

“Y gwirionedd yw nad oes gan y mudiad iaith Gymraeg adain gyfansoddiadol effeithiol ac ymroddedig.”

Mae’n dadlau hefyd nad yw Cymdeithas yr Iaith yn addas i gyflawni’r rôl hwnnw, ac y byddai ceisio newid y mudiad yn arwain at golli cefnogaeth.

“Heb weithredu uniongyrchol a’i gwmpawd moesol mae’n bosib y byddai sylfaen Cymdeithas yr Iaith yn edwino,” meddai.

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ei bod hi’n “croesawu’r ddadl sy’n digwydd am ddyfodol y mudiad”.

Gallai strwythur Cymdeithas yr Iaith Gymraeg newid mewn ffordd “radical” yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, meddai.

“Mae erthyglau Huw Lewis, Simon Brooks, Angharad Tomos a Menna Machreth i gyd wedi codi cwestiynau sydd yn werth eu hystyried,” meddai Bethan Williams.

“Bydd angen i ni addasu ar gyfer y dyfodol, yn enwedig er mwyn atal y dirywiad yn y nifer o gymunedau Cymraeg eu hiaith.”

Dywedodd y bydd yn cyflwyno’r neges mewn cyfarfod i drafod dyfodol y mudiad yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.

‘Newid er lles’

Mae angen i’r Gymdeithas “fod yn agored ac yn barod i newid er lles y Gymraeg, lle bynnag y mae hynny yn ein harwain fel mudiad,” meddai.

“Nid yw’r Gymdeithas yn fodlon gweithredu yn arwynebol fel y cwango, felly mae’n rhaid i’r broses adnewyddu hon fod yn hollol gynhwysol ac agored.”

“Mae angen cael barn pawb sydd yn poeni am ddyfodol yr iaith Gymraeg, yn hytrach na dilyn yr un hen fformiwla am ein bod ni’n gyfforddus gyda fe.

“Mae yna lawer iawn wedi newid yng Nghymru dros y degawdau diwethaf, ac mae rhaid i ni fod yn barod i newid hefyd.

“Nid yw’r Gymdeithas erioed wedi bod ag ofn herio’r ‘status quo’ ac fe fyddwn yn parhau ar yr un trywydd.”

Fe fydd Cyfarfod y Gymdeithas yn digwydd ddydd Sadwrn yma, Ionawr 7fed am 10:15yb, yng Nghanolfan Merched y Wawr, Aberystwyth.

Mae’n agored i bob aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, meddai.