Mae un o gyn-gadeiryddion Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y mudiad i ail-feddwl a oes angen gweithredu’n uniongyrchol, a sut y maen nhw’n mynd o’i chwmpas hi.

Mewn erthygl i wefan y Sefydliad Materion Cymreig dywedodd Huw Lewis ei fod yn meddwl bod ymgyrchoedd y mudiad wedi mynd braidd yn undonog.

“Mae’n sicr angen adolygu’r technegau gweithredu’n uniongyrchol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd,” meddai.

“Dros y blynyddoedd mae’r technegau rhain wedi parhau’n weddol gyson, gan gynnwys paentio sloganau, meddiannu swyddfeydd, ac, o dro i dro, torri i mewn i adeiladau.

“Serch hynny mae hyn i gyd i weld wedi mynd braidd yn undonog.

“Efallai ei fod yn bryd dilyn esiampl grŵp fel Greenpeace, sy’n blaenoriaethu effaith gweledol gweithredoedd yn hytrach na difrod materol.”

Dywedodd fod angen mynd ymhellach na hynny a gofyn a ydi gweithredu uniongyrchol – mewn unrhyw ffordd – yn cynrychioli modd effeithiol i’r mudiad gyrraedd ei nod.

“Yn ôl yn y dyddiau pan oedd gennym ni Swyddfa Gymreig oedd yn cael ei reoli gan gyfres o Geidwadwyr doedd yna ddim llawer o gyfle i drafod polisi iaith, ac roedd gweithredu uniongyrchol yn fodd o sicrhau nad oedd y mater yn cael ei anghofio’n gyfan gwbl,” meddai.

“Ond mae sefydlu Cynulliad Cymru wedi arwain at gyfleoedd newydd. Mae bellach yn bosib trafod yn gyson â gweinidogion Llywodraeth Cymru, Aelodau Cynulliad a gweithwyr sifil.

“Rhaid gofyn a oes modd cymryd mantais lawn o gyfleoedd o’r fath wrth weithredu’n uniongyrchol yn erbyn swyddfeydd yr un unigolion.

“Roedd gweithredu’n uniongyrchol yn arfer agor drysau oedd ar gau, ond bellach fe allai gau drysau sydd ar agor.”