Mae ffigyrau gwasanaeth mynediad Ucas yn awgrymu fod prifysgolion Cymru wedi derbyn 9.3% yn llai o geisiadau erbyn canol mis Rhagfyr.
Serch hynny nid yw’r cyfnod i wneud cais yn dod i ben nes 15 Ionawr, ac mae’r ffigyrau yn awgrymu fod cynnydd mewn ceisiadau wedi bod yn agosach at y terfyn amser.
Roedd ffigyrau ym mis Tachwedd yn awgrymu gostyngiad o 12.9% yn nifer y ceisiadau, gan awgrymu fod rhagor o ddarpar-fyfyrwyr wedi gwneud eu ceisiadau’n hwyrach ymlaen.
Mae mwyafrif y prifysgolion yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth, yn bwriadu codi £9,000 ar fyfyrwyr o fis Medi ymlaen.
Roedd y Sefydliad Polisi Addysg Uwch wedi darogan y byddai nifer o geisiadau i brifysgolion sy’n codi £9,000 yn gostwng tua 8% bob blwyddyn.
Yng Nghymru bydd myfyrwyr sy’n mynd i brifysgolion sy’n codi £9,000 yn parhau i dalu £3,375 y flwyddyn, a Llywodraeth Cymru yn talu’r £5,625 arall.
Ond mae mwyafrif o’r ceisiadau i brifysgolion Cymru yn dod o y tu allan i’r wlad.
Yn ôl y ffigyrau mae cwymp 5.5% yn nifer y myfyrwyr o Gymru sydd wedi gwneud cais i brifysgolion o Gymru, o’i gymharu â chwymp 11.1% yn nifer y myfyrwyr o Loegr, 16.9% o Ogledd Iwerddon a 45.0% o’r Alban.
Mae cwymp o 17.3% yn nifer y myfyrwyr sydd wedi gwneud cais i brifysgolion Cymru o y tu mewn i’r Undeb Ewropeaidd, ond cynnydd o 14.9% o y tu allan i’r UE.
Bydd nifer terfynol y ceisiadau yn cael eu datgelu gan Ucas ar 30 Ionawr.