Fe fuodd y gwasanaethau brys wrthi’n ceisio diffodd tân ger Llandysul am bedair awr neithiwr.

Cafodd pum car a dau dractor eu dinistrio yn y tân ym Mhentre-cwrt ar gyrion y dref.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 7.30pm, cyn gadael am 1am. Roedd criwiau tân ac achub o Gaerfyrddin, Llandysul a Chastell Newydd Emlyn yno.