Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn ddioddef anafiadau difrifol yn dilyn ymosodiad ym Methesda ar Ddydd Calan.

Mae tri dyn wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Roedd y dyn 24 oed yn cerdded  ar hyd ffordd fawr Bethesda ar Ddydd Calan pan ymosodwyd arno. Cafodd y dyn lleol ei gludo i Ysbyty Walton lle mae’n derbyn triniaeth ar gyfer anafiadau sy’n “bygwth bywyd”.

Mae’r Heddlu’n awyddus i wybod mwy am amgylchiadau’r digwyddiad ac eisiau siarad gydag unrhyw un oedd ym Methesda yn ystod oriau man Dydd Calan.

Maen nhw hefyd eisiau clywed gan unrhyw un welodd unrhywbeth amheus yn ystod oriau man Dydd Calan hyd at 11am. Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda’r heddlu ar 101.