Elen ap Robert o’r Felinheli fydd Cyfarwyddwr Artistig cyntaf Pontio – y ganolfan newydd gelfyddydol gwerth £40m yn y Brifysgol ym Mangor.

Bydd yn dechrau yn y swydd newydd fis Ebrill, gan adael ei swydd bresennol yn Gyfarwyddwr Artistig Galeri yng Nghaernarfon. Bu yn y swydd honno ers i’r ganolfan gael ei hagor yn Ebrill 2005, a rhoddodd ar waith sawl menter lwyddiannus yno, gyda’r pwyslais ar y gymuned leol.

Yn eu plith roedd sesiynau cerddorol Tonic i bobol hŷn, gŵyl ffilmiau Pics a ffilmiau wedi’u hanimeiddio ar gyfer pobol ifanc, cynlluniau roc Sbarc!, gweithdai a gweithgareddau o dan ofal dawnswyr, artistiaid a sgrifennwyr lleol a mentrau theatrig ar y cyd â chyrff cenedlaethol fel y Sherman a Chanolfan Mileniwm Cymru.

“Dw i’n yn hynod falch i gael fy mhenodi fel Cyfarwyddwr Artistig cyntaf Pontio,” meddai Elen ap Robert, sy’n hanu o Gaerdydd ond wedi ymgartrefu a magu teulu yn y Felinheli ger Caernarfon. “Mae’n sialens enfawr, ac un yr wyf yn edrych ymlaen ati yn fawr, yn enwedig gan fod gennym gymaint i’w wneud rhwng rŵan ac agor y ganolfan.

“Mae gan Pontio lawer iawn i’w gynnig i’r rhanbarth, ac mae cyfle gwych i ni ddatblygu rhaglen greadigol newydd ac arloesol fydd yn cynnwys rhywbeth at ddant pawb o bob oed.”

Bydd yn gyfrifol am ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau artistig ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd, yn ogystal â defnyddio’r celfyddydau i ddatblygu cysylltiadau rhwng y brifysgol a’r gymuned.

‘Cyffrous’

Mae Elen ap Robert wedi’i hyfforddi yn gantores soprano ac wedi perfformio gyda chwmnïau opera Glynderbourne a Chwmni Opera Cymru. Graddiodd o brifysgol Sheffield a gwneud cwrs ôl-radd yng Ngholeg Cerdd a Drama y Guildhall yn Llundain.

“Mae’r project yn gynllun hynod gyffrous a fydd yn dod â llawer o fudd i’r rhanbarth,” meddai Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G Hughes. “Mae’r Cyfarwyddwr Artistig yn allweddol i ddatblygu nid yn unig elfen theatr y ganolfan, ond hefyd lawer mwy, yn cynnwys cyfrannu at y rhaglen gymunedol gynyddol amlwg, a gweithio gyda myfyrwyr y Brifysgol.

“Bwriad Pontio, sydd i fod i agor ymhen dwy flynedd, yw dod â’r celfyddydau, gwyddoniaeth, technoleg a’r diwydiannau creadigol at ei gilydd ac ysgogi adfywiad economaidd y rhanbarth.

“Mae swydd Cyfarwyddwr Artistig yn allweddol i ddatblygiad hir dymor Pontio, ac roeddem yn benderfynol o benodi rhywun a allai siarad Cymraeg i’r swydd yma.”