Mae ffermwyr gogledd-orllewin Cymru wedi cael eu gwahodd i roi eu barn ar ddod â gwaharddiadau a ddaeth i rym yn sgil ffrwydrad niwclear Chernobyl i ben.

Mae undeb amaethyddol NFU Cymru wedi galw ar ffermwyr yr ardal, sydd wedi bod dan waharddiadau ers dros 25 mlynedd oherwydd y ffrwydrad yn yr Wcraen, i ddod i roi eu barn ar y bwriad i godi’r gwaharddiadau arnyn nhw.

Mae 334 o ffermydd Cymru yn dal i wynebu  gwaharddiadau oherwydd lefelau’r ymbelydredd a ddarganfuwyd ar eu tir ac ar eu hanifeiliaid ar ôl y ddamwain niwclear yn ôl yn 1986.

Fe gyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn 2011 eu bod yn ystyried ail-edrych ar y gwaharddiadau sy’n atal defaid o nifer o ffermydd y gogledd-orllewin rhag cael mynd i’r gadwyn fwyd oherwydd sgil effeithiau ymbelydrol Chernobyl.

Fe fydd rheolwr Diogelwch Ymbelydrol Asiantaeth Fwyd Cymru, Hefin Davies, yn mynd i’r cyfarfod er mwyn esbonio’r ffeithiau mewn cyfarfod yng Ngwynedd gyda ffermwyr yr ardal.

Yn ôl Cadeirydd NFU Cymru ym Meirionydd, Eifion Davies, mae’n bwysig bod ffermwyr lleol yn cael rhoi eu barn ar y cynigion gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, “er mwyn helpu NFU Cymru i baratoi ymateb i’r ymgynghoriad” gan yr asiantaeth.

‘Gwaharddiad diangen’

Fe gyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yr ymgynghoriad ar newid y rheolau yn ôl ym mis Tachwedd 2011, gydag ystyriaeth i ddiddymu’r rheolau tynn sy’n dal i gadw anifeiliaid o’r ffermydd tir uchel hyn o’r gadwyn fwyd.

Bwriad y rheolau yw atal defaid gyda lefelau uchel o ymbelydredd yn eu cyrff, a radiocaesiwm yn bennaf, rhag cael eu bwyta gan bobol.

Ond erbyn hyn mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn credu bod y lefelau wedi goswtng, a’i bod yn ddiogel i ail-gyflwyno’r anifeiliaid i’r gadwyn fwyd.

Mae’r gostyngiad graddol mewn ymbelydredd wedi digwydd dros y blynyddoedd, gyda’r rhan fwyaf o’r 9,800 o ffermydd a gafodd eu heffeithio bellach yn rhydd o’r rheolau.

Ond mae 334 o ffermydd yng ngogledd Cymru, ac wyth yn Lloegr, sy’n dal i fod â chyfyngiadau arnyn nhw.

Diddymwyd yr holl reolau ar ffermydd Gogledd Iwerddon yn 2000, ac yn yr Alban yn 2010.

Erbyn hyn, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dod i’r casgliad bod gwerth ystyried diddymu’r rheolau sy’n weddill yn sgil arolwg eang o lefelau radiocaesiwm mewn defaid ar y ffermydd sy’n dal dan warchae.

Yn ôl yr arolwg, prin iawn oedd yr achosion lle’r oedd y radiocaesiwm yn mynd yn uwch na’r lefel sy’n dderbyniol. Mae’r asiantaeth hefyd yn dweud bod y risg i bobol sy’n dod i gysylltiad â radiocaesiwm fwyaf aml nawr yn isel iawn hefyd.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng Ngwesty’r Pengwern, Llan Ffestiniog, yng Ngwynedd, rhwn 1pm a 3pm ddydd Iau, 19 Ionawr.