Bydd cyfarfod rhwng Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd,  PRS a’r BBC yn cael ei gynnal ddydd Iau, 12 Ionawr i drafod sefyllfa taliadau i gerddorion Cymraeg.

Fe wnaeth streic tridiau gan 500 o gerddorion Cymru ddod i ben  cyn y Nadolig yn dilyn trafodaethau gyda’r BBC.

Roedd y Gynghrair wedi dechrau streic fis Rhagfyr yn atal Radio Cymru rhag chwarae eu caneuon. Roedden nhw’n streicio yn erbyn y “taliadau pitw” y maen nhw’n eu cael gan y BBC am chwarae eu cerddoriaeth ar Radio Cymru.

Fe fydd y Gynghrair yn cyfarfod Elan Closs Stephens “ar wahân” cyn y cyfarfod PRS ar 12 Ionawr i drafod y sefyllfa a’i safbwynt hi, meddai Deian ap Rhisiart wrth Golwg360.

Bydd Prif Weithredwr PRS Robert Ashcroft yn bresennol yn y cyfarfod ddydd Iau nesaf ynghyd â Guy Fletcher Cadeirydd PRS, Mark Lawrence Cyfarwyddwr Aelodaeth a Hawliau PRS, James Lancaster Pennaeth Materion Busnes a Hawliau BBC a Rob Kirkham, Pennaeth Cytundebu Hawlfreintiau’r BBC.

Bydd Siân Gwynedd a Dewi Vaughan Owen yn cynrychioli BBC Cymru yn y cyfarfod.

‘Barod i drafod?’

“Rydan ni wedi cael yr hyn oedden ni eisiau o ran cyfarfod lefel corfforaethol a chanolog,” meddai Deian ap Rhisiart wrth Golwg360. “Rŵan, bydd rhaid disgwyl i weld beth fydd eu hymateb nhw ac i weld ydyn nhw’n barod i drafod,” meddai.

“Gobeithio bydd y cyfarfod yn ddechrau ar rhywbeth ac y bydden nhw’n fodlon  bod yn benagored,” meddai.

“Dydyn ni ddim eisiau’r un rhethreg rydan ni wedi’i gael ers blynyddoedd. Rydan ni eisiau iddyn nhw weld y sefyllfa o’r newydd gyda meddwl newydd,” meddai.

“Gohirio’r streic wnaethon ni. Os ydyn ni’n teimlo bod y trafodaethau’n mynd i unlle, fyddwn ni yn ôl i’r sefyllfa,” meddai.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 11am ar y 12 Ionawr yn y BBC yn Llandaf.