Elin Jones
Mae’r Gweinidog tros Faterion Gwledig wedi amddiffyn ei phenderfyniad i beidio â phreifateiddio coedwigoedd Cymru.

Yn wahanol i Loegr, fydd eiddo’r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru ddim yn cael ei werthu ac mae Elin Jones yn dweud ei bod hi eisiau gweld y wlad yn elwa yn y tymor hir.

Fe fydd yn cyhoeddi heddiw y bydd y rhan fwya’ o’r coedwigoedd yn aros mewn dwylo cyhoeddus ond fe fydd yn gofyn i’r Comisiwn Coedwigaeth wneud rhagor i ddefnyddio’r tir at bwrpasau masnachol, er enghraifft gydag ynni gwynt a dŵr.

Ennill yn y tymor hir

“Fe fyddai ennill tymor byr (o werthu) ond mae budd economaidd llawer mwy i bobol Cymru yn y tymor hir,” meddai Elin Jones wrth Radio Wales.

“Dyw ennill economaidd tymor byr ddim yn flaenoriaeth i lywodraeth gyfrifol ,” meddai, gan bwysleisio fod y coedwigoedd yn golygu mwy na gwerth economaidd – gan gynnwys hamdden.

“Mae yna botensial anferth i gynyddu rheolaeth y tir ar gyfer yr amgylchedd ac ynni adnewyddadwy hefyd.”