Mae Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblannu y GIG yn pryderu y bydd blwyddyn yn llawn digwyddiadau a gwyliau’r banc ychwanegol yn cael effaith andwyol ar y cyflenwad o waed gaiff ei roi gan y cyhoedd eleni.

Mae ystadegau yn profi bod 93% o bobl yn rhoi gwaed yn ystod yr wythnos waith a bod y canran yn gostwng yn sylweddol yn ystod digwyddiadau chwaraeon neu adeg gwyliau’r banc.

Dyna oedd y patrwm yn ystod yr wythnos llawn gwyliau gafwyd ym mis Ebrill 2011 adeg y Pasg a’r briodas frenhinol.

Gan gyfeirio at y gemau Olympaidd a dathliadau Jiwbili y Frenhines yn benodol, dywedodd Jon Latham, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Rhoddion Gwaed y gwasanaeth ei fod yn poeni am brinder cyflewnad.

“Mae 2012 yn mynd i fod yn flwyddyn gyffrous iawn yn y DU,” meddai “ond rydym yn bryderus bod clwstwr o ddigwyddiadau mawr yn mynd i achosi gostyngiad sylweddol yn y nifer fydd yn yn dod i roi gwaed.”

Mae’r gwasanaeth hefyd wedi galw ar bobl i wneud adduned blwyddyn newydd i gyfrannu organnau ar gyfer eu trawsblannu.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried creu cynllun o gyfrannu trwy ganiatad tybiedig yn 2015.

Mae ymgyrch benodol gan y GGaTH i ddenu organnau yn cyfeirio at achos Nigel Challenger o Abertileri fu farw oherwydd tyfiant yn ei ben. Roedd wedi cofrestru i gyfrannu organnau ac fe achubwyd dau berson ac mae 4 arall yn mwynhau iechyd llawer gwell wedi iddyn nhw dderbyn organnau ganddo ar ôl ei farwolaeth yn 2003.

Dywedodd ei weddw, Joanne, ei bod yn gwybod ers tro bod ei gwr o blaid rhoi ei organnau.

“Mae’n golygu llawer i mi i wybod bod organnau Nigel wedi rhoi gobaith i’r bobl yma. Roedd ei blant yn meddwl ei fod yn arwr am helpu cymaint o bobl. Dwi wedi cael cysur garw o wybod bod dau fywyd wedi eu hachub.”