Gareth Jones
Mae angen rhagor o gydweithio a chydweithredu i annog busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg, meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad.
Dyw ewyllys da ddim yn ddigon, meddai’r Pwyllgor Dysgu a Menter, sy’n canmol ymdrechion rhai cyrff ond yn dweud nad oes digon o drefn na digon yn cael ei wneud i fesur llwyddiant a dysgu gwersi.
Wrth alw ar i’r Llywodraeth arwain y gwaith o gasglu gwybodaeth ac annog strategaethau newydd, mae’r Pwyllgor yn dweud nad yw rhai pobol ifanc yn cael cyfle i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg wrth fyndi fyd gwaith.
Gwendid arall, medden nhw, oedd diffyg gwybodaeth cyflogwyr am allu eu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg.
‘Rhaid rhoi gwerth’
“Er mwyn i’r iaith Gymraeg ffynnu, rhaid i’r sector preifat a’r sector cyhoeddus roi gwerth ar y Gymraeg fel sgil sy’n gysylltiedig â gwaith,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Gareth Jones.
“Ryden ni wedi cael ein calonogi gan nifer o enghreifftiau arloesol o annog staff i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y gweithle a chyda cleientiaid, ond dydi dulliau i hybu a datblygu strategaethau i annog pobl i ddefnyddio’r iaith yn y sector masnachol ddim wedi’u cydlynu.
Yr argymhellion
Mae’r adroddiad yn cynnig nifer o argymhellion gan gynnwys:
• Bod Llywodraeth Cymru’n cynnal gwaith ymchwil i ffeindio beth sy’n rhwystro pobol rhag defnyddio’r Gymraeg gyda busnesau a chyrff cyhoeddus, beth yw agweddau a defnydd pobol ifanc o’r iaith wrth ddechrau gweithio a pa fanteision y mae busnesau ariannol wedi’u cael o gynnig gwasanaethau dwyieithog.
• Bod Llywodraeth Cymru’n cydweithredu â busnesau a defnyddwyr i ddatblygu dulliau arloesol o hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn y gweithle ac mewn busnes.
• Bod y Llywodraeth yn cydweithio gyda phartneriaid i gynnig hyfforddiant a chyflogaeth i ddisgyblion ysgol sydd eisiau defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gwaith.