Ymateb i bryderon am gam-drin ceffylau

 


Mae pryderon ym Mhowys ynghylch iechyd a lles ceffylau sy’n cael eu gwerthu mewn ffeiriau ac am ddiffyg dogfennau adnabod gofynnol.

Mewn ymateb i gyfres o gwynion i Gyngor Sir Powys a llywodraeth Cymru, mae’r cyngor yn bwriadu cynnal rhagor wiriadau mewn ffeiriau ceffylau ledled y sir er mwyn sicrhau lles yr anifeiliaid.

Bydd Heddlu Dyfed Powys, yr RSPCA a’r mudiad World Horse Welfare yn helpu gwasanaeth Safonau Masnach y sir i gyflawni’r gwiriadau.

Mae rhai gwiriadau eisoes wedi cael eu gwneud yn y Ffair Gobiau yng nghae’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ac yn y Ffair Geffylau a Merlod yn Aberhonddu’r mis diwethaf. Ni chafwyd hyd i unrhyw dystiolaeth o gam-drin na diffygion dogfennau yn y ffeiriau hyn.

Targedu

Meddai’r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros yr Amgylchedd a Rheoleiddio:

“Mae’r gwiriadau yma’n dangos sut rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod anghenion lles y ceffylau sy’n cael eu gwerthu ym Mhowys yn cael eu cynnal, ynghyd ag enw da proffesiynol yr arwerthwyr.

“Fe fyddwn ni’n targedu’r masnachwyr diegwyddor hynny sy’n ceisio prynu a gwerthu ceffylau heb y dogfennau adnabod angenrheidiol neu rai sy’n anaddas am resymau lles. Fe fyddwn ni’n cyflawni rhagor o wiriadau yn y dyfodol.”

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru a’r RSPCA wedi croesawu’r camau sy’n cael eu cymryd gan Gyngor Powys.

 “Mae’r RSPCA wedi ymrwymo i wella lles ceffylau mewn ffeiriau ac yn falch o weithio’n agos gyda chyrff eraill yng Nghymru i gyflawni hyn,” meddai’r Arolygydd Christine McNeil o’r RSPCA.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Perthynas gymhleth Cymru a Lerpwl