Gwiwer goch
Mae cynllun i ddifa gwiwerod llwyd wedi ymestyn y tu hwnt i Ynys Môn, i’r tir mawr.

Dywedodd yr elusen sy’n gwneud y gwaith eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau fod gwiwerod coch bellach wedi eu gweld yn ardal Bangor.

Maen nhw wedi sicrhau fod y wiwer goch wedi goroesi ar Ynys Môn drwy ddifa y gwiwerod llwyd oedd wedi ymledu yno.

Mae nifer y gwiwerod coch ar yr ynys wedi cynyddu i 400, o 40 pan ddechreuwyd y gwaith 12 mlynedd yn ôl.

Dywedodd Cyfeillion Wiwerod Coch Môn fod y gwiwerod bellach wedi mentro dros y Fenai ac wedi eu gweld yn ardal Bangor dros y flwyddyn a hanner diwethaf.

“Rydyn ni bellach yn dechrau rhaglen newydd er mwyn  difa gwiwerod llwyd o Fangor i’r Felinheli, ac i fyny Dyffryn Ogwen,” meddai Dr Craig Shuttleworth o’r elusen wrth bapur newydd y Daily Post.

“Pan ddechreuon ni’r gwaith ar Ynys Môn ddegawd yn ôl doeddwn i erioed wedi meddwl y bydden nhw’n dechrau lledaenu i’r tir mawr.

“Mae gwiwerod coch wedi eu gweld yn ardal Bangor ers 2009, ac mae ambell un wedi ei weld yn y Felinheli, a hyd yn oed Bethesda. Mae’n bryd i ni gefnogi hynny.”

Dylai unrhyw un sy’n gweld gwiwer goch ac eisiau rhoi gwybod ffonio 07966150847.