E-lyfrau'r Nadolig
Mae un o weisg Cymru wedi datgelu bod llyfrau Cymraeg bellach ar gael i’w lawrlwytho yn syth o’r we i ddyfeisiau e-lyfrau Kindle.

Mae’n debyg fod miliynau o bobol Ynysoedd Prydain wedi derbyn dyfais Kindle yn eu hosan Nadolig eleni, ac mae’r Lolfa yn awyddus i sicrhau fod deunydd darllen Cymraeg ar eu cyfer nhw.

Yn ogystal â bod yn rhatach na llyfrau papur, mae’n bosib lawrlwytho e-lyfrau yn syth o’r we a chario nifer anghyfyngedig ohonynt y tu mewn i’r ddyfais.

Roedd pryder yn yr haf na fyddai llyfrau Cymraeg yn ymddangos ar y Kindle erbyn y Nadolig, ar ôl i Amazon wrthod caniatáu cyhoeddi testunau yn yr iaith ar y ddyfais ddiwifr.

Ond mae’r Lolfa bellach wedi gallu cyhoeddi naw o nofelau Cymraeg ar ffurf e-lyfrau ar wefan y cwmni, ac maen nhw’n bwriadu cyhoeddi rhagor yn y dyfodol.

Mae’r llyfrau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys Yr Alarch Du, Dyn Pob Un, Y Llyfrgell, Y Ferch ar y Ffordd, Tonnau Tryweryn, Yr Argraff Gyntaf, a’r Ddinas ar Ymyl y Byd.

Mae’r llyfrau i gyd ar gael i’w prynu ar wefan Amazon fan hyn.

Ymateb i’r galw


E-lyfr Cymraeg ar y Kindle
“Yn sgil galw gan nifer o gwsmeriaid dros y flwyddyn rydym wedi cyhoeddi nifer o’n nofelau poblogaidd ar y Kindle eleni,” meddai Garmon Gruffudd ar ran Y Lolfa.

“Gobeithio bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl sy’n byw yn bell o gyrraedd siop lyfrau Cymraeg i brynu ein llyfrau yn syth bin yn electronig.

“Mae’r Lolfa wedi bod yn cyhoeddi e-lyfrau ar wefan y Lolfa ers bron i bedair blynedd ond dyma’r tro cyntaf i e-lyfrau Cymraeg fod ar werth ar wefan Amazon ar gyfer y Kindle.

“Ymhlith yr elyfrau sydd ar gael mae Dyn Pob Un, nofel ddeifiol a dychanol Euron Griffith a nofel newydd Rhiannon Wyn am Gaernarfon Yr Alarch Du. Mae prisiau’r e-lyfrau ar gyfartaledd yn bunt yn rhatach na’r llyfrau papur.”

Dywedodd ei fod yn disgwyl y bydd yna ddewis ehangach ar gael erbyn y Nadolig nesaf, ac y bydd llyfrau Cymraeg ar gael ar ddyfeisiau darllen eraill.

“Mae’n ymddangos taw ateb dros dro yw hyn,” meddai. “Mae yna gynlluniau ar y gweill i gyhoeddi rhagor o elyfrau Cymraeg ar gyfer pob pob dyfais eddarllen.

“Gobeithio y bydd hyn yn golygu cynulleidfa ehangach i lyfrau Cymraeg yn enwedig ymhlith y Cymry alltud.”