Math o awyren ddibeilot
Mae arweinydd un o enwadau mwya’ Cymru wedi ymosod ar yr arfer o brofi awyrennau dibeilot tros dir y wlad.

Yn ôl Undeb yr Annibynwyr, mae’r rheiny’n arwydd fod “ysbryd Herod” yn dal I fod yn fyw.

Mae rhan o’r canolbarth a’r gorllewin, o Aberporth draw i fynyddoedd Epynt wedi ei glustnodi’n ardal brofi ar gyfer awyrennau o’r fath, sy’n cael eu defnyddio ar gyfer ymladd a bwriadau heddychlon.

Yn ôl yr Annibynwyr, maen nhw wedi cael eu defnyddio i ladd plant mewn ardaloedd fel Pacistan a Gaza.

Neges Nadolig

“Fel Undeb, rydym yn arswydo bod awyrennau rhyfel ddi-beilot yn cael eu harbrofi uwchben de Cymru rhwng Aberporth a Mynydd Epynt,” meddai’r Parchg Ddr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Annibynwyr, yn ei neges Nadolig.

“Rhaid herio ysbryd Herod trwy wrthwynebu’r arf newydd hwn, fel pob arf arall, a’r defnydd a wneir ohonynt i ladd pobl mewn gwledydd eraill – yn eu plith nifer o bobol a phlant diniwed.

“Ddwy fil o flynyddoedd ers geni Iesu Grist, Tywysog Tangnefedd, mae’n beth truenus fod y ddynoliaeth yn dal i droi at ryfel a thrais.

“A hithau’n Ŵyl Ewyllys Da, gweddïwn y daw pobol i weld fod yna ffordd arall – ffordd tangnefedd a chariad – fel y bo pawb yn medru dathlu Nadolig dedwydd a llawen.”