Emma Jones
Cafodd angladd y fam ifanc Emma Louise Jones, gafodd ei thrywanu ym Mhenygroes,  ei gynnal heddiw.

Bu farw Emma Jones, 31 oed, yn yr ysbyty ar ôl cael ei thrywanu mewn digwyddiad ger ei chartref yn Nhrem yr Wyddfa, Penygroes ar ddydd Sadwrn, 10 Rhagfyr.

Cafodd gwasanaeth cyhoeddus ei gynnal yn Eglwys Crist ym Mhenygroes am 1.30pm, ac yna ym mynwent Macpelah.

Mae ffrindiau Emma Jones wedi sefydlu cronfa apêl i helpu i dalu am gostau’r angladd. Fe fydd arian gafodd ei gasglu yn ystod yr angladd yn cael ei roi mewn cronfa arbennig ar gyfer ei mab 11 oed, Llyr.

Fe fydd cwest i’w marwolaeth yn agor ar 11 Ionawr.

Mae Alwen Eluned Jones, 23, o bentref cyfagos Llanllyfni, wedi ei chyhuddo o lofruddio Emma Jones ac wedi ei chadw yn y ddalfa. Fe fydd gwrandawiad ym mis Chwefror.