Fe fydd cylchgrawn Golwg yn torri tir newydd ar ddechrau 2012 trwy lansio’r App cynta’ erioed ar gyfer cylchgrawn Cymraeg.

Ac mae yna anrheg Nadolig hefyd, gyda chyfle i roi cynnig ar y gwasanaeth newydd – apGolwg – yn rhad ac am ddim tros gyfnod y gwyliau.

Yn y flwyddyn newydd, fe fydd hi’n bosib prynu fersiwn arbennig o gylchgrawn Golwg ar gyfer dyfeisiadau Apple – yr iPad yr iPhone a’r iPod.

Yn dilyn rhifyn cyntaf y flwyddyn o Golwg, fe fydd y cylchgrawn cyfan ar gael ar sgrîn o’r funud y mae’n cael ei gyhoeddi – ym mhob man ar draws y byd.

• Fe fydd modd symud yn rhwydd o dudalen i dudalen ac ar draws tudalennau gan chwyddo neu leihau’r ysgrifen trwy gyffyrddiad bys.

    • Mae apGolwg hefyd yn rhoi cyfle i gynnwys fideos a ffeiliau sain yn rhan o’r cylchgrawn electronig ac  fe fydd y rheiny ar gael heb  unrhyw gost ychwanegol.

    • Fe fydd dwy ffordd o brynu’r cylchgrawn – naill ai trwy danysgrifiad blwyddyn neu chwe mis, neu fesul rhifyn am ddim ond £1.49 y tro.

        Mae’r App wedi cael ei ddatblygu gan gwmni Yudu, gyda chefnogaeth gan Gyngor Llyfrau Cymru ac fe fydd yn gam newydd pwysig ymlaen i’r wasg Gymraeg.

        “Mae Golwg wedi ceisio torri tir newydd yn gyson ac, wrth i fwy a mwy o bobol droi at ddarllen ar ddyfeisiadau symudol, mae’n bwysig fod y wasg brint Gymraeg yn ennill ei lle ar y cyfryngau newydd,” meddai Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Dylan Iorwerth.

        “Fersiwn electronig llawn o’r cylchgrawn print fydd hwn, ond efo’r cyfle i ychwanegu ambell elfen ychwanegol. Mae yna fanteision eraill hefyd – mi fydd ar gael i bawb ymhobman y funud y mae’n cael ei gyhoeddi.

        “Mi fydd yn arbennig o ddefnyddiol i bobol sy’n teithio tipyn, i bobol mewn ardaloedd lle mae siopau papur newydd yn brin ac i bobol sy’n byw yng ngweddill gwledydd Prydain ac ar draws y byd.”


        Cyfle arbennig i roi cynnig ar apGolwg yn rhad ac am ddim

        Fe fydd modd cael blas o’r gwasanaeth newydd tros gyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd.

        Mae modd lawr lwytho’r app sylfaenol, ynghyd â dau rifyn diweddaraf Golwg yn rhad ac am ddim o’r ‘App Store’ nawr.

        Mae’r prosiect wedi ei arwain gan Owain Schiavone  Prif Weithredwr chwaer wasanaeth Golwg, y gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360.

        “Er mai prosiect cylchgrawn Golwg ydy hwn, mae’r datblygiad yn rhoi cyfle i gydweithio rhagor rhwng y ddau wasanaeth,” meddai.

        “Mi fyddwn ni’n gallu datblygu elfennau newydd ar gyfer y ddau wasanaeth  a chryfhau’r dolenni rhyngddyn nhw. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae’r dechnoleg yn agor drysau ar lawer rhagor o ddatblygiadau yn y dyfodol.

        Fe fydd apGolwg ar gael yn llawn yn y flwyddyn newydd.