Leighton Andrews
Fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews bore ma y bydd arholiad TGAU y bwrdd arholi CBAC, a fyddai wedi cael ei gynnal ym mis Ionawr, yn cael ei ohirio tan fis Mawrth.

Dywedodd Leighton Andrews heddiw ei fod wedi gofyn i CBAC ganslo’r arholiad TGAU Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu  ar 17 Ionawr, 2012 er mwyn diwygio’r papurau ac ail-drefnu’r arholiad ym mis Mawrth 2012.

Roedd disgwyl i 451 o fyfyrwyr sefyll  yr arholiad ym mis Ionawr.  Mae 161 ohonyn nhw o chwe chanolfan yng Nghymru a’r 290 arall o bum canolfan yn Lloegr.
Mae’n dilyn honiadau diweddar mewn papur newydd ynghylch safonau arholi a hyder yn y system arholiadau.

Yn gynharach y mis hwn cyhoeddodd y Daily Telegraph honiadau ynghylch seminarau a ddarparwyd gan gyrff dyfarnu ar gyfer athrawon.

Ar 9 Rhagfyr cyhoeddodd y papur newydd honiadau ynghylch arholwyr, gan nodi bod cymwysterau un corff dyfarnu yn haws na chymwysterau corff dyfarnu arall.

Heddiw, mae’r  corff rheoleiddio yn Lloegr, Ofqual wedi cyhoeddi eu canfyddiadau yn dilyn yr honiadau a wnaed gan y Daily Telegraph.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru heddiw ei bod, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel corff rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru, gan gysylltu ag Ofqual a CCEA, y corff rheoleiddio yng Ngogledd Iwerddon, “wedi ystyried y materion hyn yn fanwl ac yn ddifrifol. Mae hefyd wedi ystyried yn arbennig yr effaith bosibl ar safonau cymwysterau yng Nghymru ac ar hyder y cyhoedd yn y cymwysterau hynny.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews: “Un agwedd allweddol ar ein hystyriaeth yw’r angen i sicrhau tegwch ar gyfer y dysgwyr hynny y mae’r digwyddiadau a amlygwyd gan y Daily Telegraph yn effeithio arnynt a’n hymchwiliadau dilynol.

“Rydym yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar sicrhau nad oes unrhyw amheuon ynghylch dilysrwydd safonau a chyfrinachedd arholiadau a gaiff eu sefyll ym mis Ionawr 2012 a’r haf nesaf yn sgil y ffaith bod rhai athrawon wedi cael gwybodaeth freintiedig o seminarau. Ar yr un pryd, fodd bynnag, rydym yn awyddus i sicrhau nad yw’r ymgeiswyr sy’n bwriadu sefyll yr arholiadau hynny o dan anfantais.

“Yn y tymor byr, fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau bod camau brys yn cael eu cymryd os oes unrhyw amheuaeth ynghylch hygrededd arholiadau, a allai ddeillio o achos gwirioneddol neu achos posibl o dorri cyfrinachedd.”

Bydd y Gweinidog hefyd yn gofyn i CBAC sicrhau mai dim ond ymgeiswyr a gofrestrodd ar gyfer yr arholiad gwreiddiol fydd yn cael sefyll yr arholiad ar y dyddiad newydd, ac na fydd rhaid i unrhyw ymgeisydd sy’n awyddus i ail-sefyll yr arholiad dalu’r ffi cofrestru, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un dan anfantais.

Ychwanegodd Leighton Andrews: “Rwy’n llwyr sylweddoli y bydd ad-drefnu’r arholiad yn tarfu ar yr ymgeiswyr ac efallai’n achosi gofid iddynt, ond fel rheoleiddiwr ac er budd yr ymgeiswyr, mae angen i ni sicrhau nad oes unrhyw amheuaeth ynghylch safon y cymhwyster.”

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r gofynion rheoleiddiol yn y Flwyddyn Newydd er mwyn gweld a oes angen eu tynhau ymhellach.