Mae bwrdd arholi CBAC wedi gwneud “y penderfyniad cywir” i ohirio papur arholiad TGAU  oedd i fod i gael ei sefyll ym mis Ionawr,  yn sgil honiadau bod athrawon wedi cael cyngor anheg.

Dyna ddywedodd Owen Hathaway  o undeb athrawon yr NUT ar BBC Radio Cymru bore ma.

Ond ar yr un pryd roedd yn cydnabod bod y plant hynny oedd wedi bod yn astudio ar gyfer arholiad Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Uned 3 “yn colli allan”.

Mae disgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru bore ma yn dilyn adroddiadau bod Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, wedi dweud wrth CBAC na ddylai’r papur arholiad gael ei ddefnyddio fis nesa.

Mae’n debyg y  bydd CBAC yn ysgrifennu at 11 o ysgolion a cholegau i ohirio’r papur TGAU oedd i gael ei sefyll ar 17 Ionawr. Daw’r datblygiadau diweddara ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod un o arholwyr CBAC wedi datgelu manylion y cwestiynau mewn seminar.

Fe fydd y papur yn cael ei ail-ysgrifennu ac yn cael ei ohirio tan fis Mawrth.

Mae disgwyl i’r corff arholi yn Lloegr Ofqual gyhoeddi adroddiad heddiw i honiadau a wnaed ym mhapur y Daily Telegraph  bod rhai arholwyr wedi rhoi gwybodaeth amhriodol i athrawon fel bod disgyblion TGAU yn gallu cael gwell graddau.

Wrth rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Addysg San Steffan wythnos diwethaf  mynodd prif arholwr CBAC nad oedd wedi torri unrhyw reolau. Dywedodd Paul Barnes fod ei sylwadau yn y Daily Telegraph wedi cael eu camddehongli.

Ac roedd arholwr arall CBAC Paul Evans hefyd yn mynnu nad oedd wedi datgelu manylion am gwestiynau oedd i godi mewn arholiadau hanes yn y dyfodol.

Mae’r ddau wedi eu gwahardd o’u swyddi dros dro tra bod CBAC yn cynnal ymchwiliad.