Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi eu bod yn agos at ddod i gytundeb gyda’r rhan fwyaf o’r undebau ynglŷn â newidiadau i bensiynau yn dilyn trafodaethau ddoe.

Mae’n ymwneud â phensiynau’r Gwasanaeth Iechyd, addysg, y gwasanaeth sifil a llywodraeth leol.

Ond mae undeb y GMB wedi cyhoeddi prynhawn ma eu bod yn  ail-ystyried eu sefyllfa ar ôl i’r Llywodraeth gyflwyno “telerau newydd” ar gyfer cytundeb i weithwyr llywodraeth leol. Yn ôl adroddiadau mae’r telerau newydd yn cynnwys rhoi cyfyngiad ar gyfraniadau gweithwyr.

Gall datganiad y GMB olygu bod yr anghydfod yn parhau, gan chwalu gobeithio am ddiwedd i’r ffrae ynglyn â chynlluniau’r Llywodraeth i newid pensiynau’r sector cyhoeddus.

Dim cytundeb ar bensiynau athrawon

Yn y cyfamser, dywedodd undeb athrawon Cymru UCAC eu bod wedi methu â dod i gytundeb gyda  Llywodraeth San Steffan ddoe. Ond mae’r ddwy ochr wedi cytuno  i barhau â’r trafodaethau ym mis Ionawr.

Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Mae’r trafodaethau wedi bod yn adeiladol; serch hynny mae’r cynnig yn dal i fod yn siomedig gan nad yw’n mynd i’r afael yn ddigonol â phrif bryderon aelodau UCAC. Ni allwn arwyddo cynnig o’r fath heb gyfle i drafod ac ystyried ymhellach.

“Rydym yn aros am ragor o fanylder gan y Llywodraeth ar rai agweddau o’r cynnig. Bydd Cyngor Cenedlaethol UCAC yn gallu ystyried y cynnig o ddifrif ym mis Ionawr ac edrychwn ymlaen at ailafael yn y trafodaethau ddechrau 2012.”