Hywel Williams
Mae Plaid Cymru wedi cefnogi galwadau am daliadau tecach i gerddorion Cymru heddiw, ar ddechrau tri diwrnod o streic gan gerddorion Cymru.

Mae Hywel Williams AS wedi galw ar Gymdeithas Hawliau Perfformio y PRS i ail-ystyried y penderfyniad i israddio Radio Cymru ac yn sgil hynny cynnig taliadau is i artistiaid cyfrwng Cymraeg sy’n cael eu chwarae ar yr orsaf.

Daw’r alwad wrth i gerddorion ddechrau tridiau o brotest yn erbyn y newidiadau gan y PRS sydd wedi arwain at “doriadau mewn incwm a gorfodi rhai unigolion allan o’r diwydiant.”

Yn ôl Hywel Williams, mae’r newidiadau i fformiwla taliadau’r PRS, a gyflwynwyd yn 2008, wedi cael “effaith negyddol ar gerddorion Cymreig.”

‘Dim cydanbyddiaeth i brif ffynhonnell cerddoriaeth Cymraeg’

“Mae Radio Cymru yn orsaf genedlaethol,” meddai Hywel Williams. “Yr orsaf yw prif allbwn cerddorion cyfrwng Cymraeg ond nid yw fformiwla’r PRS yn cydnabod hyn.

“Mae cerddoriaeth cyfrwng Cymraeg yn anhebygol o gael ei chwarae ar unrhyw orsaf sy’n gwasanaethu’r Deyrnas Unedig gyfan ac felly mae’r rheolau hyn yn dangos rhagrith yn erbyn y rheiny sy’n creu eu gwaith yn y Gymraeg,” meddai.

Yn ôl Hywel Williams, mae fformiwla taliadau’r PRS yn methu â chydnabod pwysigrwydd cael llwyfan i gerddoriaeth Cymraeg.

“Nid yw’r taliadau a gynnigir yn adlewyrchu cyfraniad ieithyddol a diwylliannol y cerddorion ac mae hyn yn peri bygythiad i fywoliaethau.

“Mae gan Gymru sîn gerddorol fywiog, ond er mwyn ei chynnal, rhaid i’r PRS gynnig taliadau realistig sy’n adlewyrchu gwaith yr artistiaid.”