Pontio
Mae canolfan celfyddydau arfaethedig Bangor, Pontio, wedi penodi Cynulleidfaoedd Cymru i wneud ymchwil i helpu i ddatblygu ei rhaglen artistig.

Bydd Cynulleidfaoedd Cymru’n gwneud ymchwil gyda chynulleidfaoedd, trigolion a myfyrwyr presennol Bangor, a chymunedau ehangach gogledd orllewin Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Pontio “y bydd y gwaith yn helpu i roi gwybodaeth i Pontio am natur y gynulleidfa, ei photensial a’i chymhelliant a bydd yn canfod ffactorau sy’n rhwystro presenoldeb cyn lansio’r ganolfan yn hydref 2013”.

Bydd Pontio, sy’n derbyn £27.5m gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop yn comisiynu ymchwil pellach yn nes at agor y ganolfan ddiwedd 2013.

‘Cofleidio’r gymuned’

“Mae Pontio wedi cyrraedd cyfnod cyffrous iawn yn ei datblygiad. Bydd ein rhaglen bresennol yn y celfyddydau a Chanolfan Pontio pan ddaw yn denu ystod eang ac amrywiol o gynulleidfaoedd,” medai’r rheolwr marchnata, Elin Haf Thomas.

“Defnyddir ymchwil Cynulleidfaoedd Cymru i ddatblygu strategaeth farchnata a rhaglen celfyddydau sydd yn seiliedig ar wybodaeth gadarn ac yn cofleidio’r gymuned leol o’r cychwyn cyntaf.”

Dywedodd Nick Beasley, Prif Weithredwr Cynulleidfaoedd Cymru, eu bod nhw “wrth ein bodd yn gweithio gyda thîm Pontio ar ddatblygiad mor gyffrous i ogledd orllewin Cymru”.

“Fel arbenigwyr ar ymchwil ym maes y celfyddydau sydd yn gweithio yng Nghymru, mae gennym brofiad cadarn o gynnal projectau sy’n cyfrannu  gwybodaeth at ddatblygiadau cyfalaf o bwys yn y celfyddydau ac rydym yn deall yn iawn mor bwysig yw ymchwil o’r fath i Pontio, preswylwyr Bangor a phobl sy’n ymweld â gogledd Cymru.”