Cyfle i dwristiaeth
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu newidiadau mewn cynllun buddsoddi mewn twristiaeth.
Maen nhw’n dweud y bydd gan fusnesau bach ar ffermydd bellach gyfle i fynd am grantiau o rhwng £5,000 a £25,000.
Roedd yr undeb ymhlith y rhai a fu’n pwyso am y newidiadau – ond maen nhw wedi rhybuddio y bydd rhaid i fusnesau fferm symud yn sydyn.
Fe fydd rhaid i’r ceisiadau am arian gael eu gwneud erbyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesa’ o dan y Cynllun Cefnogi Buddsoddi Mewn Twristiaeth.
Mae’r arian ar gael i dalu am hyd at 40% o gost cynlluniau i wella adnoddau a chyfleusterau mewn busnesau twristiaeth.
Help i fuddsoddi
“Rhaid i fusnesau twristiaeth bach yng Nghymru gael help i fuddsoddi a gwella eu cyfleusterau, yn arbennig yn yr hinsawdd economaidd ar hyn o bryd,” meddai Deilwen Breese, Cadeirydd Pwyllgor Arallgyfeirio’r Undeb.
“Mae’r cynllun yn golygu y bydd busnesau o bob maint bellach yn cael cyfle i wneud newidiadau hanfodol.”