Cafodd y penderfyniad ynglyn â safle Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Benfro yn 2013 ei ohirio tan y flwyddyn newydd a hynny am yr eildro.

Dywed y mudiad bod angen ystyried lleoliadau mwy canolog oddi mewn i’r sir er bod yr Urdd wedi derbyn dros 10 cynnig am safleoedd yn wreiddiol.

Roedd rhain yn cynnwys Cilwendeg ger Boncath ym mhen ucha’r sir, a safle’r hen feysydd awyr yn Nhyddewi, safle Castell Caeriw a maes sioe Hwlffordd yn y de.

Bellach bydd y gwaith o ystyried safleodd mwy canolog yn digwydd o fewn yr wythnosau nesaf a’r penderfyniad yn cael ei wneud yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ei fod yn “destun balchder fod cynifer o ardaloedd yn awyddus i groesawu’r Eisteddfod a pherchnogi’r wyl”.

Ychwanegodd bod brwdfrydedd mawr yn y sir a nifer helaeth o bobl yn gweld budd o gynnal yr Eisteddfod yno.