Ruth Marks
Mae Comsiynydd Pobl Hŷn Cymru, Ruth Marks wedi dweud y dylai ariannu cartrefi i’r henoed fod yn seiliedig ar safon ac nid ar gost yn unig.

Mewn cyfweliad efo’r BBC, dywedodd bod yr henoed y mae hi’n eu cyfarfod ym mhob cwr o Gymru yn dweud eu bod eisiau mwy o wybodaeth a rheolaeth dros eu dyfodol a bod yr ansicrwydd ariannol ac emosiynol yn cael effaith enfawr arnyn nhw a’u teuluoedd, gan brofi nad yw’r drefn fel y mae hi yn gweithio.

“Mae’n hanfodol bod lleisiau yr henoed yn ogystal a lleisiau eraill yn cael eu clywed wrth drafod hyn,” meddai.

“Y cwestiwn sylfaenol ydi faint yr ydan ni fel cymdeithas yn gwerthfawrogi ein henoed ac mi greda’i mai’r ateb ydi ‘dim hanner digon.’ “

Roedd Ruth Marks yn cael ei chyfweld yn dilyn yr adolygiad barnwrol dydd Gwener pan orchmynwyd Cyngor Sir Benfro i ail ystyried faint mae nhw’n ei dalu i gartrefi henoed preifat am bob preswylydd.

Roedd y cyngor wedi cynnig codi’r swm o £390 i £460 yr wythnos ond roedd perchnogion saith allan o tua 30 o gartrefi preifat yn y sir yn anghytuno efo’r drefn ddefnyddiwyd i bennu’r swm yma.

Mae’r penderfyniad yn debygol o gael effaith ar gynghorau eraill yng Nghymru. Dywed Cyngor Sir Benfro y bydd y penderfyniad yn costio £1.5m yn ychwanegol i’r cyngor eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod wedi eu siomi gan yr adolygiad. “Mae gofal am yr henoed mewn cyflwr o argyfwng ariannol ym mhob cwr o’r DU,” meddai. “Rhaid cofio hefyd bod Cyngor Sir Benfro yn talu un o’r graddfeydd uchaf i gartrefi gofal allan o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru,” ychwanegodd.