Fe fydd Cymru yn ymdrechu i fagu cysylltiadau cryfach gyda’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn penderfyniad David Cameron i ddefnyddio’i feto yn erbyn cytundeb newydd yr UE – allai ynysu Prydain o weddill Ewrop, meddai Prif Weinidog Cymru heddiw.

Mae Carwyn Jones wedi cyhoeddi cynlluniau i fynd â neges Cymru i galon Ewrop drwy ymweld â Brwsel yn y Flwyddyn Newydd i ennyn cysylltiadau cryfach  gyda Chomisiwn Ewrop.

Yn ystod ei ymweliad, fe fydd Carwyn Jones yn atgyfnerthu ei neges fod Cymru yn agored i fusnes, meddai heddiw.

Bydd yn ceisio annog gwledydd Ewrop i fuddsoddi yng Nghymru ac i arddangos talentau a sgiliau’r wlad.

Mae’n dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau’n amlwg o fewn Ewrop ac yn bartner amlwg yn yr Undeb Ewropeaidd ar sefyllfaoedd o bwysigrwydd sy’n ymwneud â pholisi amaeth a Chronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.

Dywedodd nad yw “datgysylltu a’r Undeb Ewropeaidd, neu wanhàu sefyllfa Prydain o fewn yr Undeb o fewn budd cenedlaethol Cymru.”