Yr Athro Mike Hambrey
Mae rhewlifegydd o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill cydnabyddiaeth Brydeinig am ei ymchwil i rewlifoedd yn Antarctica.

Dyma ail ‘Fedal y Pegynau’ i’r Athro Michael Hambrey ei ennill am ei waith ymchwil estynedig ar rewlifeydd Antarctica.

Enillodd y Fedal am y tro cyntaf yn 1989, am ei ymchwil i ranbarthau’r ddau begwn – ond eleni mae wedi ymun o â rhestr hyd yn oed mwy prin o bobol sydd wedi ennill y wobr ddwywaith am eu gwaith.

Mae’r wobr yn cael ei rhoi gan Swyddfa Hydrograffeg y Deyrnas Gyfunol, a bydd yn cael ei chyflwyno gan y Frenhines mewn seremoni ym Mhalas Buckingham yn gynnar yn 2011.

Sefydlwyd y wobr yn ôl yn 1904 er mwyn cydnabod gwaith aelodau tîm Capten Robert Scott am eu mordaith i gael darganfod mwy am Antartica.

Ymhlith y canrif a mwy o enillwyr mae’r fforiwr enwog arall, Syr Ernest Shackleton, Syr Wally Herbert, y cyntaf i groesi Môr yr Arctig trwy Begwn y Gogledd, a’r fforiwr mwy diweddar Syr Ranulph Fiennes.

‘Cyfraniad mawr i’r ymchwil’

Mae Michael Hambrey wedi bod yn dysgu daearyddiaeth ffisegol yn Aberystwyth ers 1998, ac roedd yng nghlwm wrth sefydlu Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru yn 2009 – cyn dod yn gyfarwyddwr cyntaf y Consortiwm.

Mae wedi gwneud gwaith ymchwil eang i ymateb rhewlifoedd a haenau iâ i’r newid yn yr hinsawdd – a hynny nid yn unig ym Mhegwn y De a’r Gogledd, ond hefyd yn yr Alpau, mynyddoedd yr Himalaia a’r Andes.

Mae wedi treulio 10 tymor yn Antartica, a thua 20 yn yr Arctig, ac mae’n bwriadu dychwelyd i Antartica ym mis Chwefror.

Yn ôl Swyddfa Hydrograffeg y Deyrnas Gyfunol, rhoddwyd y wobr i’r Athro Michael Hambrey er mwyn cydnabod ei “waith eithriadol parhaus ar rewlifeg sydd wedi cyfrannu i wasanaeth gwyddonol yr ymchwil a’r arolwg a wneir gan y Deyrnas Unedig yn Antarctica.”

‘Diolch i Aber’

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Michael Hambrey ei bod hi’n “anrhydedd i dderbyn y wobr” ond bod llawer o’r diolch i’r adran ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Ni fyddai hyn yn bosib heb gymorth diflino cydweithwyr a graddedigion Aberystwyth, yn ogystal â chymorth ariannol ac ymarferol nifer o fudiadau rhyngwladol,” meddai.

“Mae ein hymchwil yn hanfodol er mwyn deall sut y mae’r iâ a’r eira ar y blaned yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r rhewlifau sy’n encilio ledled y byd yn arwydd clir o effaith cynhesu byd eang.”

Ond dywedodd ei fod yn teimlo’n ffodus iawn o gael gwneud y fath waith. “Fel rhewlifwyr, mae gwaith maes yn mynd â ni i rai o ranbarthau harddaf y ddaear, fel y mae gwylwyr y gyfres “Frozen Planet” ar BBC1 yn sicr wedi sylweddoli.”

Yn ddiweddar fe ddaeth un arall o rewlifegwyr Prifysgol Aberystwyth i sylw Prydeinig gyda’r gyfres BBC Frozen Planet. Roedd yr Athro Alun Hubbard, sy’n hanu o Borth, ger Aberystwyth, yn helpu cyfarwyddo’r ffilmio ac yn cyfrannu sylwadau o’i ymchwil i raglen olaf y gyfres bobologaidd, oedd yn trafod effaith newid hinsawdd ar yr haenau ia ar yr Ynys Las.