Emma Jones
Mae ffrindiau merch fu farw ar ol cael ei thrywanu ym Mhenygroes dros y penwythnos wedi sefydlu cronfa i helpu i dalu am ei hangladd.
Mae ffrindiau yn gobeithio drwy’r gronfa y caiff Emma Jones yr angladd “y mae’n haeddu.” Hyd yma, mae ffrindiau a’r cyhoedd wedi casglu dros £500.
Bydd holl arian y gronfa yn mynd tuag at angladd Emma Louise Jones, a bydd unrhyw arian ychwanegol yn cael ei roi i Llyr, ei mab. Mae manylion y gronfa ar gael ar dudalen Facebook.
Bu farw Emma Louise Jones, 31 oed, ar ôl cael ei thrywanu mewn digwyddiad ar stad o dai Trem yr Wyddfa ym Mhenygroes, Gwynedd yn ystod oriau mân fore dydd Sadwrn.
Mae dynes 23 oed o Lanllyfni, sydd wedi ei chyhuddo o’i llofruddiaeth, wedi cael ei chadw yn y ddalfa.
Roedd Alwen Eluned Jones wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon ddoe i wneud cais am fechnïaeth.
Fe fydd y gwrandawiad nesaf yn cael ei gynnal ar 10 Chwefror, 2012 yn Llys y Goron Caernarfon. Yn y cyfamser, mae cais wedi cael ei wneud am adroddiad seiciatrig.