Mel a Nia
Mae cyflwynydd a chynhyrchydd rhaglen ffair Nadolig Mel a Nia  ar S4C wedi dweud bod “cydymdeimlad dwysaf” y tîm cynhyrchu gyda “chymuned glos” Penygroes yn ystod y “cyfnod trist” hwn.

Daw’r sylwadau wedi i ferch leol farw mewn digwyddiad yno dros y penwythnos.

Bu farw Emma Louise Jones, 31 oed, ar ôl cael ei thrywanu mewn digwyddiad ar stad o dai Trem yr Wyddfa ym Mhenygroes, Gwynedd yn ystod oriau mân fore dydd Sadwrn.

Roedd criw cynhyrchu rhaglen Mel a Nia yno’n ffilmio ffair Nadolig ar Stryd yr Wyddfa ddydd Sadwrn diwethaf. Fe gafodd y ffair ei threfnu fisoedd yn ôl  mewn cydweithrediad a rhaglen Mel a Nia, S4C.

Cyfres tair rhaglen ar S4C yw’r gyfres yn dilyn yr holl baratoi wrth i’r ddau dynnu’r gymuned at ei gilydd i drefnu’r digwyddiad. Fe ddarlledwyd y bennod gyntaf nos Fercher, 7 Rhagfyr – roedd dwy raglen arall i ddod.

Mae S4C wedi penderfynu gohirio rhifyn heno o’r rhaglen yn dilyn y “digwyddiad trist.”

‘Llawer o drin a thrafod’

“Yn sgil y digwyddiadau trist yn gynnar ar fore’r Ffair Nadolig, bu llawer o drin a thrafod p’un a’i a ddylem fwrw ’mlaen gyda chynnal y Ffair ai peidio,” meddai’r cyflwynydd Nia Parry, sydd hefyd yn cynhyrchu’r gyfres Mel a Nia.

“Wedi trafod gyda nifer o bobl leol a’r heddlu, gwnaethpwyd y penderfyniad i barhau. Roedd yna deimlad cryf bod y Ffair wedi tynnu pawb at ei gilydd ar adeg anodd,” meddai.

“Mae Penygroes yn gymuned glos yr ydym wedi dod i’w hadnabod yn dda dros y misoedd diwethaf. Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda nhw yn ystod y cyfnod trist yma.”

Fe fydd y ddwy bennod olaf o’r gyfres yn cael eu dangos fel un rhaglen awr o hyd ar nos Fercher, 21 Rhagfyr am 8.25pm, meddai S4C heddiw.

Mae dros ddwy fil tri chant o bobl wedi ymuno â thudalen ‘Cysga Yn Dawel Emma Jones (Emma Bach)’ ar wefan Facebook i gofio Emma gyda llawer yn talu teyrnged i’r ferch leol.