Fe allai Llywodraeth Cymru orfodi bwytai a siopau prydau parod i ddangos eu marciau hylendid a glanweithdra mewn lle amlwg, cafodd ei gyhoeddi heddiw.

Mae’r Llywodraeth eisiau gwella safonau glanweithdra yng Nghymru drwy system fyddai’n golygu bod rhaid i fusnesau arddangos eu marciau ar y drws neu mewn man sy’n hawdd i’w weld.

O dan y system, byddai busnesau’n cael marciau rhwng 0 a 5 – yn ddibynnol ar sut maen nhw’n coginio’r bwyd, sut mae’n cael ei storio a safon yr adeilad.

Byddai’n rhaid i bob busnes gymryd rhan gan gynnwys archfarchnadoedd – ac fe fyddai’n rhaid i’r marciau fod mewn man hawdd i’w weld neu gallai busnes wynebu dirwyon o hyd at £1,000 am dorri’r rheolau.

Ar hyn o bryd, mae dros 13,500 o fusnesau wedi bod yn rhan o’r cynllun newydd sy’n cael ei weithredu gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd – ond dim ond un ym mhob tri sy’n arddangos eu marciau.

Fe fyddai’r system newydd yn golygu bod 30,000 o fusnesau yng Nghymru yn gorfod dangos eu marciau hylendid.

Daw’r cynlluniau hyn ar ol nifer o achosion o E.Coli yng Nghymru.

Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd egluro ei fod yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau gyflawni safonau hylendid yn barod – ond nad oes rheidrwydd ar fusnesau i ddangos y marciau.