Mae ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg wedi galw ar y Llywodraeth i sicrhau y bydd yn gorfodi awdurdodau lleol i ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg.

Yn ôl Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg, CYDAG, mae angen sicrhau bod bob awdurdod lleol yn atebol am eu strategaeth tuag at addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae cyfnod ymgynghori wedi dechrau ynglŷn â’r Bil – sy’n cynnwys y Cynlluniau Strategol ar sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg – a bydd yn dod i ben ar 5 Ionawr y flwyddyn nesa’.

Mae’r Llywodraeth wedi gofyn i athrawon a disgyblion ymateb i’r mesurau sy’n cael eu cynnig yn y Bil – sy’n cynnwys cyflwyno’r dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fesur yr angen am addysg Gymraeg yn eu hawdurdodau lleol, a sicrhau eu bod yn ateb y galw hwnnw yn effeithlon.

Mae CYDAG wedi ysgrifennu at nifer o ysgolion Cymraeg Cymru yn eu hannog i ymateb i’r ymgynghoriad cyn y dyddiad cau, yn sgil pryder y gallai’r Cynlluniau gael eu gollwng.

“D’yn ni’n cymryd dim byd yn ganiataol,” meddai Arwel George, Ysgrifennydd CYDAG, a chyn-bennaeth Ysgol Gymraeg Penweddig, Aberystwyth wrth Golwg 360.

“Ond r’yn ni’n gryf iawn o’r farn bod angen i’r cynllun fod yn statudol er mwyn cael cyfle cyfartal i bob disgybl i gael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.”

UCAC yn cefnogi’r Cynlluniau Strategol

Mae undeb athrawon Cymru, UCAC, wedi dweud wrth Golwg 360 eu bod yn gobeithio’n fawr y bydd y Cynlluniau Strategol Cymraeg yn cael eu cynnwys gan y Llywodraeth yn y Bil Ysgolion 2012.

“Rydyn ni’n gefnogol iawn o’r cynigion yn y mesur,” meddai Swyddog Polisi UCAC, Rebecca Williams. “Mae awdurdodau wedi cael gwneud hyn mewn modd gwirfoddol ers blynyddoedd, ond roedd rhai ohonyn nhw yn eitha’ esgeulus wrth ei weithredu.”

Os yw’r Bil yn cael ei basio, dyma fydd y tro cyntaf i’r awdurdodau lleol wynebu dyletswydd statudol i ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg.

Roedd Cynlluniau Iaith Gymraeg yn bodoli ar gyfer Awdurdodau Lleol cyn hyn, dan adain Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ond heb y gallu i’w gorfodi ar yr awdurdodau. Ond wrth i Fwrdd yr Iaith ddod i ben, mae’r mesur hwn nawr dan adain y Llywodraeth – sydd â’r gallu i ddal Awdurdodau i gyfri os nad yw’n cael ei weithredu.

“Nawr fe fydd hi’n orfodol i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynllunio mewn ffordd call ac ymateb i alw rhieni am addysg Gymraeg,” meddai Rebecca Williams.

“Bydd y mesur yn ei gwneud hi’n orfodol i awdurdodau addysg wneud hyn oedden nhw i fod i’w wneud yn barod.”

Yn ôl Rebecca Williams, mae mesur o’r math yma i’w groesawu gan fod y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu, ac mae’n gyfle i’r llywodraeth sicrhau fod awdurdodau addysg yn ateb y galw.

‘Ymrwymo i ddeddfu ar y Gymraeg’

Y prynhawn ’ma, mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r pryderon gan ddweud fod “datgblygu addysg cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys cyflwyno Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, yn ymrwymiad allweddol yn ei rhaglen llywodraethol, ac yn addewid maniffesto.

“Y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) fydd y cyntaf o becyn o newidiadau addysg i roi grym deddfwriaethol i’n agenda gwelliannau,” meddai’r llefarydd.

“Ar hyn o bryd rydyn ni mewn cyfnod o ymgynghori, sy’n dod i ben ar 5 Ionawr. Bydd pob ymateb sy’n cael ei dderbyn yn cael ei ystyried yn ofalus ac yn cael ei gymryd i ystyriaeth cyn bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud.”