Mae  Ysbyty Llandochau, ym Mro Morgannwg, wedi gorfod gohirio rhai llawdriniaethau ar ol i ladron ddwyn ceblau copor o’r ysbyty.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r ysbyty am 2pm brynhawn ddoe, wedi i’r ceblau copor gael eu dwyn o eneradur wrth gefn yr ysbyty.

Mae’r ysbyty yn gobeithio y bydd modd adfer y sefyllfa’r prynhawn ’ma, ond mae llawdriniaethau wedi eu gohirio tan amser cinio o leia’.

Mae’r heddlu’n dal i ymchwilio i’r lladrad.

Trosedd ar gynnydd

Yn ôl y ditectif ymchwilydd Mark Cleland, mae dwyn ceblau wedi cyrraedd lefelau “cwbwl annisgwyl” yn ystod 2011, yn enwedig o safbwynt “ehangder y broblem” ar draws Cymru.

Yn y cyfamser mae’r heddlu wedi rhybuddio delwyr metel sgrap i ddisgwyl galwad gan yr heddlu dros yr ŵyl, wrth iddyn nhw fynd i’r afael ag achosion o ddwyn ceblau a metel.

Yn ôl yr heddlu, fe fydd swyddogion yn ymweld â delwyr metel sgrap yng Nghasnewydd, Abertawe, Rhondda, Wrecsam, y Rhyl a Chaernarfon.

Mae’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn dweud y byddan nhw’n cydweithio â’r heddlu ac asiantaethau eraill er mwyn taclo lladron ceblau dros gyfnod yr ŵyl, sy’n dal i ddwyn y metel, a hynny er gwaetha’r pris bach iawn sydd arno ar hyn o bryd.

Dywed Mark Cleland fod dwyn ceblau yn cael effaith “enfawr, nid yn unig wrth redeg y rheilffordd, ond hefyd ar fywydau’r rheiny sy’n dibynnu ar y rhwydwaith o ddydd i ddydd.”

Mae elusen annibynnol Taclo’r Taclau yn cynnig gwobr gwerth £1,000 am unrhyw wybodaeth a allai arwain at arestio a dedfrydu unrhyw ladron ceblau.

Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd â gwybodaeth am droseddau o’r fath ffonio Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800555111, neu’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar 0800405040.