Mae pobol sydd â dementia yng Nghymru wedi cael eu twyllo o fwy na £5 miliwn, mae’r Gymdeithas Alzheimer’s wedi datgelu heddiw.

Mae’r elusen yn amcangyfrif bod mwy na 6,000 o bobol sydd â dementia yng Nghymru – 15% o’r holl ddioddefwyr – wedi cael rhywun yn cymryd mantais ohonyn nhw’n ariannol, unai drwy alw yn y tŷ yn ddiwahoddiad, neu drwy anfon llythyron twyllodrus, neu gam-werthu.

Mae’r adroddiad newydd gan y Gymdeithas yn galw ar ddioddefwyr dementia ac Alzheimer’s i gael eu diogelu yn well.

Mae’r arbenigwr ariannol Martin Lewis nawr wedi ymuno â’r Gymdeithas Alzheimer’s er mwyn galw ar Safonau Masnach a banciau i helpu rhoi stop i hyn drwy benodi pencampwyr dementia.

Byddai’r pencampwyr hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr ac yn arwain at gyd-weithio agosach â sefydliadau lleol eraill.

Mae’r elusen hefyd eisiau i awdurdodau lleol  ddiogelu cyllideb Safonau Masnach, er gwaethaf yr hinsawdd o doriadau.

Mae’r adroddiad yn dangos fod pobol sy’n dioddef o gyflyrau dementia ac Alzheimers yn cael eu rhoi dan straen ac yn teimlo’n rhwystredig iawn gan y cynllwynion i geisio’u twyllo o’u harian.

Yn ôl sefydlydd Moneysavingexpert.com, Martin Lewis, a fu’n rhan o lunio’r adroddiad, mae graddfa’r broblem yn “anferthol” ar hyn o bryd.

“Mae’n warthus fod pobol yn barod i gymryd mantais o rai o’r bobol fwyaf bregus yn ein cymdeithas,” meddai.

Mae hefyd yn rhybuddio fod cyfanswm yr arian sy’n cael ei dwyllo o ddwylo’r bobol fregus yma’n siwr o fod llawer yn uwch na’r ffigwr swyddogol gan fod “camdrin ariannol yn aml yn cael ei adael heb ei gofnodi.”

Yn ôl Sue Phelps, Cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer’s Cymru, mae twyllwyr yn cael effaith andwyol iawn ar bobol “sydd eisoes yn wynebu costau gofal uchel, a chymdeithas sy’n methu â deall eu hanghenion.

“Dim ond trwy weithio gyda banciau, awdurdodau lleol, a’r cyhoedd, y gallwn ni ddatrys y broblem yma a dechrau’r flwyddyn newydd â gobaith newydd,” meddai.