Mae angen gwelliannau ar gynlluniau’r Llywodraeth i leihau’r risg o gael strôc yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor y Cynulliad.

Mae’r adroddiad, gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad, yn tynnu sylw at ddiffygion wrth gyrraedd targedau a diffyg cyfeiriad yn y cynlluniau presennol.

Yn ôl yr adroddiad mae angen “cyfeiriad a pherchnogaeth newydd” ar y cynlluniau i leihau’r risg o strôc yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn dweud bod angen atebion arloesol i’r problemau presenol, fydd yn gallu mynd i’r afael â’r ffordd y mae’r cynllun yn cael ei weithredu, perchnogi ac yn perfformio.

Un o’r problemau presenol sy’n cael ei adnabod gan yr adroddiad yw nad yw’r Cynllun Torri Risg Strôc gan Llywodraeth Cymru yn cael ei redeg mor effeithlon ag sy’n bosib.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn galw am werthusiad llawn o’r cynllun er mwyn darparu mwy o eglurder ynglŷn â’i berchnogaeth ac ynglŷn â delifro’r gwasanaethau.

Diffygion

Ymlith y diffygion sy’n cael eu hadnabod yw methu â chyrraedd targedau, fel sicrhau bod rhai cleifion pendol yn derbyn triniaeth o fewn 48 awr.

Mae’r adroddiad hefyd yn adlewyrchu’r ffaith nad oes digon o arbenigwyr strôc yng Nghymru, a bod diffyg agwedd unedig at mynd i’r afael â strôc ar draws Cymru.

Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor, Mark Drakeford AC, yng Nghymru yn unig mae yna “11,000 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn a dyna’r trydydd achos marwolaeth mwyaf yn y DU.

“Yn amlwg, mae gwasanaethau yn y maes hwn o bwysigrwydd canolog ac mae’r Pwyllgor yn croesawu’n fras Cynllun Llywodraeth Cymru i Leihau’r Risg o Strôc fel agenda flaengar bosib,” meddai.

“Ond, rydym yn pryderu bod angen mynd â gwaith y Llywodraeth ymhellach – o ran codi ymwybyddiaeth o’r Cynllun a darparu gwasanaethau lleihau risg yn effeithiol ar lawr gwlad ym mhob rhan o Gymru.”