Fe allai mwy na 3,000 o deiars oedd wedi eu gadael yn anghyfreithlon mewn garej ym mhentref Glan Conwy fod wedi achosi damwain amgylcheddol ddifrifol wrth ymyl Afon Conwy, yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

Eisoes, mae perchennog y safle wedi cael rhybudd i symud y teiars oherwydd eu bod yn risg tân enfawr i’r ardal, meddai swyddogion yr Asiantaeth.

Ond, gan fod y garej yn agos at Afon Conwy, at dai pobl ac at y llinell reilffordd – mae’r Asiantaeth wedi cymryd y cam “hynod anghyffredin” o symud y teiars eu hunain.

Fe fydd contractwyr yn gweithio ar wagio’r safle ddydd Mawrth a dydd Mercher nesaf.

Mae tîm Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn gweithio gyda Heddlu’r Gogledd i geisio darganfod pwy wnaeth adael y teiars yno’n anghyfreithlon rhwng 25 a 27 o Dachwedd.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda’r Heddlu neu’r Asiantaeth ar 0800 80 70 60.