Mae un o undebau amaethyddol Cymru wedi cyhuddo Gweinidog yr Amgylchedd o fradychu ffermwyr heddiw, wrth iddyn nhw ddal i ddisgwyl penderfyniad ar ddifa moch daear yng Nghymru.

Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones, wedi ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, John Griffiths er mwyn mynegi ei “siom eithriadol” fod y penderfyniad dros ddifa moch daear wedi ei ohirio eto.

“Mae’r gohirio cyson yma’n bradychu diwydiant amaeth Cymru sydd wedi ymroi i gymryd cam cyfannol at reoli’r diciau mewn gwartheg,” meddai Emyr Jones.

Cyhoeddwyd bod oedi pellach yn mynd i fod cyn cyhoeddi penderfyniad ar ddifa moch daear gan y Prif Weinidog Carwyn Jones yr wythnos ddiwethaf.

Penderfyniad yn y flwyddyn newydd?

Ym mis Mehefin eleni, fe gyhoeddodd John Griffiths fod cynlluniau i ddifa moch daear, a gytunwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, yn mynd i gael eu gohirio nes bod adolygiad yn cael ei gynnal i sylfaen gwyddonol y penderfyniad i ddifa.

Fe gyhoeddwyd casgliadau’r adolygiad hwnnw yr wythnos ddiwethaf – ond mae’r Gweinidog bellach wedi dweud na fydd penderfyniad yn cael ei wneud ar ddifa nes y flwyddyn newydd.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi beirniadu’r oedi diweddaraf, wedi i John Griffiths wthio amseru’r cyhoeddiad ymlaen ddwywaith yn barod.

Yn ei lythyr at y Gweinidog, mae Emyr Jones yn dweud bod “y gymuned amaethyddol wedi ymddwyn ag ewyllys da ers i’r ymrwymiad gael ei wneud yn 2008 gan y weinyddiaeth flaenorol y byddai rhaglen cyfannol yn cael ei redeg i gael gwared a TB.”

‘Ewyllus da’

Dywedodd Emyr Jones fod yr ewyllys da yn arbennig o wir yng ngogledd Sir Benfro, yr ardal sydd wedi ei daro waethaf gan y diciau yng Nghymru hyd yn hyn.

“Yno, mae’r cyfyngiadau llym ar reoli symudiadau gwartheg wrth aros am ddifa moch daear, wedi golygu ail-strwythuro llawer o fusnesau ffermydd a straen ariannol ac emosiynol ychwanegol i lawer o bobol sy’n cadw gwartheg,” meddai Emyr Jones

Mae Undeb Amaethwyr Cymru nawr yn rhybuddio y gallai oedi pellach beryglu’r “bartneriaeth” rhwng gwahanol gyrff ar draws Cymru er mwyn mynd i’r afael â TB.

Mae Golwg 360 wedi gofyn am ymateb gan y Llywodraeth.