Glyn Davies AS
Mae Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn wedi dweud ei fod gant y cant yn gefnogol i benderfyniad dadleuol David Cameron i wrthwynebu cytundeb a allai fod wedi achub yr Ewro.

Mae’r Ceidwadwr Glyn Davies wedi datgan ei gefnogaeth i’r  Prif Weinidog, a ddefnyddiodd ei feto yn erbyn newidiadau i gytundeb yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos ddiwethaf.

“Doedd dim dewis gan David Cameron ond defnyddio’i feto,” meddai Glyn Davies heddiw.

Yn ôl Glyn Davies, doedd dim “sicrwydd y byddai swyddi a busnesau Prydeinig yn cael eu diogelu rhag rheoliadau anghystadleuol a gwahaniaethol,” yn y cytundeb a gynigwyd.

Byddai’r cytundeb newydd yn cyflwyno undod ariannol ar draws 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd – ond trosglwyddo rhagor o bwerau i Ewrop ydi’r peth olaf sydd ei angen, yn ôl Glyn Davies.

Mae gan y Ceidwadwr o Sir Drefaldwyn hanes o gadw cefn y Prif Weinidog, ar ôl pleidleisio gydag ef, ac yn erbyn refferendwm ar dynnu’r Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd, yn gynharach eleni.

Wrth drafod ei gefnogaeth i’r Prif Weinidog heddiw, dywedodd Glyn Davies fod David Cameron yn “gwbwl gywir i beidio â throsglwyddo rhagor o bwerau dros economi’r Deyrnas Unedig i sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae’r Llywodraeth Glymblaid wedi cymryd camau cadarn yn barod er mwyn rhoi Prydain ar y ffordd i adferiad. Byddai hi ddim ym muddiannau Prydain i beryglu’n hygrededd ar y farchnad bondiau, na’r cyfraddau llog isel y mae’r DU yn eu mwynhau.”

Ond dywedodd ei fod yn “siomedig” na chafwyd mwy o gyfaddawd gan wledydd eraill Ewrop, “yn enwedig gan nad oedden ni wedi ceisio consesiynau mawr.”

Yn ôl Glyn Davies, mae’r diffyg cytundeb dros y ffordd i ddatrys sefyllfa’r Ewro yn dal yn bryderus – ond mae’n beirniadu diddordeb gwyrdroedig gwledydd Ewrop mewn creu cysylltiad ariannol mwy clos.

“Yr agwedd mwyaf gofidus o’r cyfarfod ym Mrwsel oedd nad oedd unrhyw gynnydd wedi ei wneud wrth ddelio â’r problemau yn wynebu gwledydd yr Ewro – roedd y cyfan yn ymwneud â chreu undeb ariannol, ac mewn gwirionedd creu gwlad o’r enw Ewrop.”

Mae Glyn Davies yn dweud y bydd yn mynd i Dŷ’r Cyffredin y prynhawn ’ma i glywed datganiad David Cameron ar gasgliadau’r cyfarfod Ewropeaidd ym Mrwsel.