Mae ymgyrchwyr dros ynni adnewyddol wedi rhybuddio heddiw fod penderfyniad Llywodraeth San Steffan i haneru’r tâl i unrhyw un sy’n cynhyrchu trydan drwy baneli solar yn mynd i fod yn ergyd mawr i’r economi ac i’r amgylchedd.

Bydd y tâl am drydan gan baneli solar ar dai yn gostwng o 43.3c y cilowat awr i 21c i unrhyw un sy’n cofrestru eu system paneli solar ar ôl heddiw.

Mae’r newid polisi, a gyhoeddwyd yn ddi-rybudd gan y Llywodraeth ychydig dros fis yn ôl, wedi cael ei feirniadu gan nifer, ac mae’r Adran Ynni a Newid hinsawdd bellach yn wynebu her gyfreithiol gan Gyfeillion y Ddaear.

Mae Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gareth Clubb, wedi dweud bod y penderfyniad diweddaraf gan Lywodraeth San Steffan yn dangos methiant wrth daclo’r “angen dybryd am ynni adnewyddol ar draws y DU, ac yng Nghymru yn enwedig.

“Mae Cymru eisoes yn bell iawn tu ôl i’r lle dylen ni fod ar ynni adnewyddol,” meddai Gareth Clubb.

Mae’r ffigyrau diweddar gan Lywodraeth San Steffan yn dangos fod llai o drydan adnewyddol wedi ei gynhyrchu yng Nghymru yn 2010 nag yn 2008 – er bod y cyfanswm ar draws y DU wedi cynyddu o fwy nag 20%.

Mae Cyfeillion y Ddaear bellach wedi dechrau achos cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth San Steffan am ostwng y tâl sy’n cael ei roi gan y Llywodraeth am drydan o baneli solar.

“Fe wnaethon nhw ymgynghori ar y tariffs a’r taliadau cyn eu cyflwyno nhw i ddechrau,” meddai Gareth Clubb, “ond nawr maen nhw am eu cwtogi nhw ta beth.

“Mae hyn yn tanseilio’r ymgynghoriad gwreiddiol yn gyfangwbwl,” meddai wrth Golwg 360.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru hefyd yn rhybuddio yn erbyn yr ergyd ar y diwydiant paneli solar yng Nghymru.

“Mae’r holl ddiwydiant sydd wedi tyfu o gwmpas paneli solar dros y 18 mis diwethaf yn mynd i deimlo ergyd mawr oherwydd penderfyniad y Llywodraeth,” meddai Gareth Clubb.