Mae dynes 23 oed o Lanllyfni wedi cael ei chyhuddo o lofruddio Emma Louise Jones o Benygroes yng Ngwynedd.

Dywed yr heddlu y bydd Alwen Eluned Jones yn ymddangos o flaen ynadon Caernarfon fory.

Mae’r heddlu hefyd wedi cadarnhau bod Emma Louise Jones wedi cael ei thrywanu.

Arestiwyd tri person fel rhan o’r ymchwiliad. Erbyn hyn, mae dyn a dynes wedi cael eu rhyddhau heb unrhyw gyhuddiad yn eu herbyn.

Mae’r llofruddiaeth wedi bod yn sioc fawr i drigolion Penygroes. Roedd ddoe i fod yn ddiwrnod hapus iawn yn y pentref gyda’r Ffair Nadolig oedd wedi cael ei threfnu gan y gymuned ar gyfer y gyfres Mel a Nia ar S4C yn cael ei chynnal, ond roedd y newyddion am y llofruddiaeth wedi syfrdanu pawb.

Dywedodd y cynghorydd lleol Elwyn Jones Griffith fod y pentref i gyd mewn sioc. “Does dim byd fel hyn wedi digwydd yma o’r blaen,” meddai.

Mae arbenigwyr fforensig wedi bod yn archwilio bloc o fflatiau yn Nhrem y Wyddfa, Penygroes lle credir yr oedd Emma Jones yn byw.