Mae ymchwiliad wedi dechrau i achos tân yn yr Wyddgrug nos Wener.

Mi gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i stad ddiwydiannol Bromfield am 8.24 yr hwyr i ddelio â thân ar safle cwmni Printcentre Wales.

Roedd dynion tân o’r Wyddgrug ei hun, ynghyd â chriwiau o Fwcle, Glannau Dyfrdwy, Fflint a Wrecsam wedi dod i’r safle, ac fe lwyddon nhw i ddiffodd y tân erbyn canol nos.

Ni chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.