Mae’r heddlu yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth ym Mhenygroes, Gwynedd ar ôl i ddynes farw yn gynnar bore heddiw.

Mae tri pherson wedi cael eu harestio ac maen nhw yn y ddalfa. Mae’r heddlu wedi apelio am dystion i’r hyn ddigwyddodd.

Mae’r ddynes a laddwyd wedi cael ei henwi’n lleol yn Emma Jones.