Mae dyn 28 oed wedi cael ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Nwygyfylchi ddoe.

Mae wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Ychydig ar ôl 5.50 bore ddoe, derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru adroddiad bod person wedi’i darganfod ar Ffordd Glanrafon, Dwygyfylchi. Fe aethpwyd â hi i Ysbyty Gwynedd ym Mangor lle cadarnhawyd ei bod wedi marw.

Nid yw’r Heddlu wedi enwi’r ddynes a fu farw, ond mae wedi cael ei henwi’n lleol fel Susan Griffiths, 47 oed, oedd yn fam i bump o blant. Mae ei theulu wedi cael gwybod am y digwyddiad ac maen nhw’n cael eu cefnogi gan Swyddog Cyswllt Teuluol.

Mae ymchwiliadau’r heddlu i’r digwyddiad yn parhau. Credir fod gwrthdrawiad wedi bod rhwng beiciwr a char ac mae’n cael ei drin fel gwrthdrawiad angheuol lle na wnaeth y gyrrwr stopio.

Mae’r Heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu ag Uned Plismona’r Ffyrdd ar 101 (os yng Nghymru) neu 0300 3300 101. Gall unigolion hefyd gysylltu â Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.